Mae miloedd o Lydawyr wedi bod yn protestio yn strydoedd dinas Nantes heddiw, gan alw am ailuno yr hen Lydaw.
Roedden nhw’n gweiddio “Un genedl ydyn ni” am yn ail a swn y pibau a chwifio’r faner ddu a gwyn draddodiadol.
Dyma’r drydedd brotest i gael ei threfnu eleni, ac yn ol y trefnwyr, dyma’r fwya’, gyda 30,000 o wrthdystwyr yn penderfynu martsio.
Maen nhw am weld yr hen diriogaeth yn cael ei diffinio eto, trwy uno ardal Nantes gyda thywysogaeth Llydaw sydd ar hyn o bryd yn rhan o ranbarth y Loire.
Roedd gwahanu’r ardal Lydewig yn benderfyniad bwriadol yn 1941 gan lywodraeth Marshal Petain.