Stephen Crabb
Mae llywodraeth San Steffan eisiau rhoi’r gorau i wleidyddiaeth begera yng Nghymru, meddai Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.

Mae’r gwleidydd yn dweud fod y math o ddatganoli y mae’r blaid Lafur wedi’i greu yn creu trefn gymhleth. Mae e’n awyddus i weld mwy o bwerau – “pellgyrhaeddol a hyblyg” yn cael eu trosglwyddo o Lundain i Gaerdydd.

Fe fydd yn gofyn yfory, meddai, i Fil Cymru gael ei ddiwygio er mwyn cael gwared ag unrhyw gymal sy’n rhwystro trosglwyddo pwerau trethu.

Fe fydd hefyd yn gofyn i Swyddfa Cymru weithio ar gynlluniau drafft ar gyfer model newydd o ddatganoli yng Nghymru – model a fydd yn “para blynyddoedd” meddai Stephen Crabb.

Wrth annerch Cynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham, meddai: “Rydw i wedi credu erioed y dylai’r pwerau sy’n cael eu trosglwyddo i Gymru fod yn bellgyrhaeddol ac yn hyblyg.

“Rwy’n addo cael gwared ar yr hyn sy’n ein rhwystro rhag defnyddio’r pwerau yn effeithiol.

“Fe fydd trosglwyddo deddfau trethu yn cael gwared ar y math o wleidyddiaeth sy’n gwneud i Gymru fynd ar ofyn llywdraeth gyda’i chap yn ei llaw.

” A dyma fydd dechrau cyfnod newydd o lywodraethu cyfrifol yng Nghymru. Datganoli i bwrpas.”