Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli carcharor o wledydd Prydain a gafodd ei saethu ym Mhacistan, yn galw ar David Cameron i ymyrryd yn yr achos.
Yr ofn ydi y bydd Mohammad Asghar, 70, yn cael ei anfon yn ei ol i’r carchar yn Rawalpindi, lle mae ei gynrychiolwyr yn dweud iddo gael ei dargedu.
Roedd wedi ei gael yn euog o gabledd.
Mae’r awdurdodau ym Mhacistan yn dweud fod yn rhaid iddo ddychwelyd i’r carchar, tra bod ymgyrchwyr ar ran Mr Ashgar yn dweud ei fod angen gofal meddygol oherwydd ei fod yn diodde’ o sgitsoffrenia paranoid.
“All llywodraeth Prydain ddim caniatau i hyn ddigwydd,” meddai ymgyrchwyr Mr Ashgar.
Fe gafodd Mr Asghar, o Gaeredin, ei garcharu ym mis Ionawr eleni, wedi iddo ysgrifennu nifer o lythyrau at gyfeillion yn honni mai fo oedd y Proffwyd Mohammed.