Mae criw’r bad achub ym Mhorthdinllaen yn dathlu heddiw, wrth i’w cwch newydd gael ei enwi’n swyddogol.
Ac mae’r seremoni yn nwylo y darlledwr profiadol, David Dimbleby, wrth i’w cwt newydd hefyd gael ei agor. Mae hi’n 150 mlynedd ers i’r bad cynta’ ddechrau achub bywydau yn y môr ar ochr ogleddol Penrhyn Llyn.
Mae’r cwch newydd – sydd eisoes wedi achub 32 o fywydau ers cyrraedd Porthdinllaen, wedi ei henwi’n ‘John D Spicer’ er cof am noddwr amlyca’r gwasanaeth. Fe gostiodd y cwch £2.7m, ac oni bai am gymunroddion i’r RNLI, fe fyddai wedi bod yn anodd neu’n agos at amhosib ei fforddio.
Mae cwt newydd wedi’i godi ar gost o £9.8m, i fod yn gartre’ i’r bad newydd.