Aled Jones (Llun: S4C)
Fe ddaeth cynulleidfa dda ynghyd yn Sir Ddinbych y penwythnos hwn i weld Aled Jones – nid yn canu, ond yn agor estyniad newydd sbon canolfan siopa rhwng Llanelwy a Threfnant.

Mae Tweedmill yn cyflogi 140 o bobol ac yn gwerthu dillad, nwyddau i’r ty ac esgidiau. Gyda’r estyniad newydd, mae’r cwmni yn gobeithio croesawu mwy na’r 650,000 o ymwelwyr sy’n dod yno.

Fe gostiodd yr estyniad £4.5m, ac mae’r ganolfan siopa ar ei newydd wedd wedi creu gwaith o 50 yn ychwanegol.

“Mae’n braf bod yn ôl yng ngogledd Cymru,” meddai Aled Jones. “Dydw i ddim yn arfer gwneud pethau fel hyn – dw i’n fwy cartrefol ar lwyfan…”

Ac wedi’r agoriad swyddogol, fe fu’r canwr o Fôn, a ddaeth i amlygrwydd gynta’ fel boi soprano yn Eglwys Gadeiriol Bangor, yn arwyddo ei lyfr newydd. Mae ar ddechrau taith o gwmpas gwledydd Prydain a fydd hefyd yn ymweld Abertawe, Aberystwyth a Llandudno.