George Clooney
Mae’r actor sgrin fawr, George Clooney, wedi priodi – gan ddod â’i gyfnod yn wr sengl mwya’ deniadol y byd, i ben.

Fe briododd y gyfreithwraig hawliau dynol, Amal Alamuddin, mewn seremoni suful yng ngwesty moethus Aman yn ninas Fenis yn yr Eidal.

Roedd rhesaid o sêr ffilmiau Hollywood yn y briodas, yn cynnwys Brad Pitt a Matt Damon. Yno hefyd roedd y fodel Cindy Crawford.

Cyn y seremoni, roedd yr actor Hollywood yn “nerfs rhacs”, meddai.