Mae’r gitarydd Malcolm Young o AC/DC wedi rhoi’r gorau i’r band oherwydd ei fod yn diodde’ o ddementia ac yn derbyn gofal llawn amser at y cyflwr, yn ôl y Sydney Morning Herald.

Daw’r newyddion trist i’r fei wrth i’r rocars chwedlonol o Awstralia baratoi at fynd ar daith i hyrwyddo eu halbwm ddiweddara’, Rock Or Bust.

Anferthedd AC/DC

Yn recordio ers 40 mlynedd, mae AC/DC wedi gwerthu dros 200 miliwn o albyms.

Gwerthwyd 22 miliwn copi o’r casgliad Back In Black (1980) yn America yn unig, ac fe werthodd eu halbwm ddiwetha’ Black Ice (2008) wyth miliwn copi ledled y byd.

O ran gwerthu recordiau, maen nhw’n un o’r bandiau roc-a-rôl mwya’ llwyddiannus erioed.

Ar gyfer y daith newydd, bydd nai Malcolm Young, Steve Young, yn cymryd ei le ar y gitâr rhythm.