Hosni Mubarak
Mae llys yn yr Aifft wedi gohirio cyhoeddi dyfarniad yn achos Hosni Mubarak tan fis Tachwedd.

Mae’r cyn-arlywydd wedi bod ar brawf yn dilyn cyhuddiadau o fod a rhan yn lladd protestwyr yn ystod y chwyldro gafodd wared arno o’i swydd yn 2011.

Fe gafodd y gwr 86 oed ei gludo mewn hofrennydd o ysbyty filwrol i’r llys yn Cairo heddiw.

Fe gafodd Hosni Mubarak ei ddedfrydu i garchar am oes yn 2012, ar yr un cyhuddiadau. Ond fe orchmynodd barnwr y dylid cynnal ail achos.

Fe agorodd yr achos hwnnw ym mis Mai 2013.