Peter Black
Mae’r Aelod Cynulliad, Peter Black, wedi croesawu penderfyniad Cyngor Abertawe i wneud tro pedol ar fater rhenti ar stad dai fawr Elba.

Ond, mae angen gwneud newidiadau i’r modd y mae cytundebau’n cael eu llunio, er mwyn rhwystro hyn rhag digwydd eto, meddai’r Democrat Rhyddfrydol.

Meddai Peter Black: “Rydw i wedi bod yn gweithio gyda rhai o drigolion Elba wrth iddyn nhw wrthwynebu cynyddu’r rhent. Rydw i’n falch bod y Cyngor hefyd wedi gwrando a phenderfynu nad oedd y cynnydd yn gyfiawn nac yn deg.

“Roedd gan deuluoedd ar y stad bryderon go iawn, ac roedd nifer ohonyn nhw’n wynebu colli eu cartrefi oherwydd faint oedd y Cyngor yn disgwyl iddyn nhw ei dalu.

“Ond mae tro pedol Cyngor Abertawe wedi cael croeso mawr,” meddai Peter Black wedyn. “Rydw i’n falch bod y cabinet wedi gweld synnwyr, a bod y cyngor bellach yn fodlon codi rhent sy’n llawer mwy fforddiadwy.”