Llyr Gruffydd - ergyd fawr i ffermwyr
Wrth ymateb i ddatganiad y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar gefnogaeth i ffermwyr yr ucheldir, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig cysgodol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd y bydd hi’n “ergyd fawr” i ffermwyr rhostir.

Yn ol Llyr Huws Gruffydd, mae penderfyniad Rebecca Evans i beidio cyflwyno cynllun Ardal Cyfyngiad Naturiol yn y Cynllun Datblygu Gwledig yn gweithio’n erbyn nifer o amaethwyr oedd wedi gobeithio am hynny.

“Mae’r sector eisoes wedi gweld cwymp o 44% yn incwm ffermydd hyd yn oed cyn penderfyniad y Gweinidog blaenorol i dorri 15% o’r cynllun taliadau uniongyrchol,” meddai Llyr Gruffydd.

“A bydd addewid y Gweinidog blaenorol y caiff ffermwyr eu digolledu trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig yn swnio’n wag iawn.

“Gwirionedd y penderfyniad hwn yw y bydd  ffermio rhostiroedd yn llai hyfyw i awer o ffermwyr yng Nghymru, a bydd y sector cyfan yn dioddef ergyd fawr arall.”

Rhan o ddatganiad y Gweinidog

“Er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus, mae’n hanfodol dilyn dull gweithredu holistaidd wrth ddatblygu cymorth i’r ucheldir,” meddai Rebecca Evans.

“Dyna wnaeth Fforwm yr Ucheldir wrth ddatblygu’r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer adroddiad ‘Datgloi Potensial yr Ucheldir’ a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2012. Roedd yr adroddiad yn ystyried yr holl gyfleoedd sydd ar gael – masnachol, cymdeithasol ac amgylcheddol…

“Bydd y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 newydd yn arloesol o ran arddull. Bydd y cymorth yn canolbwyntio ar bedwar maes pwysig o fuddsoddiad: Cyfalaf Dynol a Chymdeithasol, Adnoddau Ffisegol, Mesurau Seiliedig ar Ardal a LEADER/Datblygu Lleol. Bydd modd i ffermydd a busnesau a chymunedau eraill yn yr ucheldir gyrraedd at gymorth dan bob un o’r meysydd hyn er mwyn eu helpu i gryfhau a bod yn fwy cystadleuol.

“Roedd cyflwyno’r ffin PAC newydd ar gyfer Rhostir yn destun pryder i rai, yn arbennig ar gyfer ffermydd â chryn dipyn o dir yn rhanbarth y rhostir.

“Fodd bynnag, gan wrando ar bryderon ffermwyr y rhostir, rwyf wedi sicrhau bod trefn apelio deg a thryloyw yn ei lle ar gyfer y rhai sydd am herio dosbarthiad eu tir, ac rwyf wedi gofyn i Cyswllt Ffermio osod trefniadau cymorth busnes penodol wedi’i ariannu’n llawn i helpu busnesau unigol asesu effaith y newid a rhoi cyfle i ystyried opsiynau ar gyfer ffrydiau incwm amgen.”