Mae’r Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol wedi cadarnhau fod tri o ddynion wedi ymddangos o flaen llys yn Iwerddon ar gyhuddiad o smyglo’r cyffur cocên i wledydd Prydain.
Fe fydd dyn arall o flaen ei well yn Leeds heddiw, meddai datganiad yr Asiantaeth, wedi i dunnell o’r powdwr gael ei ddarganfod ar gwch oddi ar arfordir Iwerddon.
Fel rhan o’r cyrch, mae cwch o farina Pwllheli yn cael ei archwilio.
Wedi’u cyhuddo
Mewn llys yn Cork, Iwerddon, neithiwr, fe ymddangosodd tri sydd wedi’u cyhuddo o fod a chocên yn eu meddiant gyda’r bwriad o’i fewnforio.
Fe fydd Thomas Britteon o Grimsby, Benjamin Mellor o Bradford a John Powell o Orllewin Swydd Efrog, yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae Stephen Powell, 47, o Leeds, wedi’i gyhuddo o gynllwynio i fewnforio cocên. Bydd yn ymddangos yn y llys heddiw.