Ddylai Prydain ddim bod ofn gadael yr Undeb Ewropeaidd, meddai un o weinidogion Cabinet llywodraeth David Cameron.
Mae Ysgrifennydd Diwylliant y llywodraeth, Sajid Javid, wedi gwneud ei sylwadau ar drothwy Cynhadledd flynyddol ei blaid yn Birmingham.
Gallai Prydain fod ar ei hennill o adael Ewrop, meddai.
“Dw i’n meddwl y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig mwy o bosibiliadau,” meddai. “Does gen i ddim ofn hynny.
“Edrychwch ar yr hyn ydan ni wedi’i gyflawni eisoes – dod allan o’r gyfrannu at wledydd sy’n methdalu, lleihau cyllideb yr Undeb Ewropeaidd…”