Mae Ysgrifennydd Cartref llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y bydd cyfreithiau newydd yn dod i rym cyn diwedd y flwyddyn a fydd yn gallu mynd i’r afael a’r nifer o achosion o Brydeinwyr sy’n mynd dramor i ymladd gyda’r Islamic State.

Fe allai fod yna 500 o bobol sydd wedi teithio o wledydd Prydain er mwyn ymuno gyda grwpiau o ymladdwyr yn Syria ac yn Irac, meddai Theresa May.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd The Times heddiw, mae’n dweuud y gallai’r ddeddfwriaeth newydd fod yn barod erbyn diwedd mis Tachwedd.

“Yr hyn ydyn ni’n wybod ydi fod Syria yn fwy o dynfa i bobol sy’n mynd o’r Deyrnas Unedig,” meddai Theresa May.

“Dydi’r cysyniad o bobol yn mynd ac yn ymladd dramor ddim yn un newydd,” meddai wedyn. “Mae pobol wedi mynd i Somalia, ardaloedd ym Mhacistan a mannau eraill.

“Y nifer o bobol sy’n mynd i Syria sy’n gwneud hyn yn wahanol.

“Rydyn ni’n dal i edrych ar yr hyn ellid ei wneud er mwyn rhwystro rhai rhag dychwelyd i’r Deyrnas Unedig wedyn.”