Milwyr yn yr Wcrain
Mae Prif Weinidog yr Wcráin, Arseniy Yatsenyuk am i’r sancsiynau ar Rwsia barhau tan fod modd sicrhau rheolaeth dros holl ranbarthau’r Wcráin, gan gynnwys y Crimea.
Yn dilyn diwrnod o drafodaethau, galwodd Yatsenyuk ar i Rwsia dynnu lluoedd allan o ddwyrain y wlad ac i ddechrau trafodaethau heddwch.
Pe bai Rwsia yn dilyn amodau cadoediad a gafodd ei gytuno’r mis yma, mae’r Unol Daleithiau wedi dweud y byddan nhw’n codi’r sancsiynau economaidd sydd wedi taro economi Rwsia.
Bwriad y sancsiynau economaidd oedd taro adnoddau ynni, amddiffyn ac ariannol y wlad.
Mae’r Undeb Ewropeaidd hefyd wedi galw am ragor o sancsiynau ar Rwsia.
Ond dydy’r sancsiynau ddim wedi llwyddo i atal llu o ymosodiadau, ac mae mwy na 3,500 o bobol wedi cael eu lladd ers i’r ymladd rhwng y ddwy wlad ddechrau ym mis Ebrill.
Er bod cynrychiolwyr o’r Cenhedloedd Unedig yn cwrdd yr wythnos hon i drafod y sefyllfa, dydy Yatsenyuk nac arweinydd Rwsia, Vladimir Putin yn rhan o’r trafodaethau hynny.
Hyd yn hyn, dydy Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddim wedi gweithredu yn erbyn Rwsia, gan ei bod yn aelod llawn o’r Cyngor.