Mae adroddiad gan Estyn yn dangos bod presenoldeb disgyblion mewn ysgolion wedi gwella yn ystod y bum mlynedd diwethaf.
Ond mae’r corff arolygu’n dweud bod ganddyn nhw bryderon o hyd am bron i draean o’r ysgolion uwchradd sydd wedi cael eu harolygu ers 2010.
Dywed yr arolygwyr fod chwarter yr holl absenoldebau’n rhai cyson, ac maen nhw’n dweud bod hynny’n cael effaith negyddol ar berfformiad y disgyblion dan sylw.
Dim ond dau o bob pump o ddisgyblion sy’n colli dosbarthiadau’n gyson – rhwng 10% ac 20% o wersi – sy’n ennill pump TGAU da.
Ond un o bryderon Estyn yw nad yw’r disgyblion hynny bob amser yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaethau Lles gan nad yw’r lefel absenoldeb dros 20%.
Ond nododd yr adroddiad fod gan y rhan fwyaf o’r ysgolion gamau i fynd i’r afael â lefelau uchel o absenoldebau.
Dywedodd y Prif Arolygydd, Ann Keane bod y gwelliant yn “galonogol”.
Ond, meddai, mae angen i lefelau absenoldebau ostwng ymhellach, “yn enwedig lefelau absenoldeb disgyblion mewn grwpiau agored i niwed a’r disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim”.
Ymhlith y garfan honno, mae lefelau absenoldebau bron ddwywaith lefel y disgyblion eraill.
Ychwanegodd: “Mae gwella presenoldeb wedi bod yn argymhelliad mewn bron traean o adroddiadau arolygiadau ysgolion uwchradd am y pedair blynedd diwethaf.
“Os yw disgyblion yn absennol o’r ysgol, ni allant ddysgu ac maent yn fwy tebygol o ddisgyn ar ei hôl hi.
“Cynigiaf fod pob ysgol, awdurdod lleol, rhiant a disgybl yn parhau i fynd i’r afael â lefelau presenoldeb er mwyn helpu i sicrhau bod safonau’n parhau i wella.”