Mae undeb prifathrawon NAHT Cymru wedi croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru o’r drefn o fandio ysgolion Cymru yn unol â pherfformiad.
Mae’n dilyn beirniadaeth gan y gwrthbleidiau a gweithwyr addysg o’r hen system fandio, a oedd yn mesur perfformiad ysgolion o fandiau un i bump ac yn ddibynnol ar sut mae disgyblion yn perfformio mewn arholiadau, a lefel presenoldeb.
Dywedodd cyfarwyddwr NAHT Cymru, Dr Chris Howard, fod y system fandio mewn ysgolion uwchradd wedi bod yn “amheus”.
Ychwanegodd: “Nid yw arweinwyr ysgolion yng Nghymru yn ofni atebolrwydd ond maen nhw’n cwyno am y rhesymau cywir os ydyn nhw’n cael eu barnu yn ôl data amheus sydd ddim yn rhoi darlun cyflawn o’r ysgol.
“Roedd y system fandio mewn ysgolion uwchradd yn enghraifft glir o ffeithiau a ffigyrau tenau yn cael eu defnyddio i dynnu oddi wrth berfformiad ysgolion.”
Ysgolion Cynradd
Dywedodd Dr Chris Howard fod y system newydd am alluogi i ysgolion gyd-weithio i sicrhau bod safon addysg ledled Cymru yn codi:
“Mae’r system newydd yn fwy galluog am ei fod yn cydbwyso data yn erbyn tystiolaeth fwy crwn sydd wedi ei selio ar farn a safon y dysgu.
“Er ein bod yn credu y dylai’r Llywodraeth wneud mwy i gydnabod faint mae’r ysgolion yn ei gyfrannu at fywydau ac addysg y disgyblion, rydym yn falch eu bod wedi dechrau gwrando.
“Mae’r system graddio mewn ysgolion cynradd wedi’i greu er mwyn helpu ysgolion i gefnogi ei gilydd i wneud yn well ar gyfer ein pobol ifanc. Nid yw’n gosod ysgolion mewn tabl perfformiad ac fe ddylem osgoi’r ffordd o feddwl honno sydd am niweidio ein siawns o gydweithio er budd Cymru.”