David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud bod Prydain yn barod i gymryd rhan mewn cyrchoedd awyr tros Irac mewn ymgais i herio’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mewn araith i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd neithiwr, dywedodd y Prif Weinidog  fod angen herio’r mudiad a bod “angen i’r byd cyfan uno yn ei erbyn”.

Ychwanegodd na ddylid ofni mynd i Irac yn dilyn y camgymeriadau a gafodd eu gwneud pan aeth Prydain i ryfel yn Irac yn y gorffennol.

Fe allai awyrennau o Brydain gael eu hanfon i Irac y penwythnos hwn, ond dydy David Cameron ddim wedi dweud pa mor hir allai’r cyrchoedd awyr bara.

Dywedodd ei fod yn hyderus y bydd yr holl bleidiau seneddol yn ei gefnogi.

Daw ei gyhoeddiad wedi i Brif Weinidog newydd Irac, Haider Abadi ofyn am gymorth gwledydd y gorllewin.

Dydy Cameron ddim wedi diystyru’r posibilrwydd y gallai’r cyrchoedd awyr gael eu hymestyn i Syria yn y dyfodol hefyd.

Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg gefnogi’r cyrchoedd.