Y Frenhines
Fe fydd David Cameron yn ymddiheuro wrth y Frenhines pan fydd yn cwrdd â hi y tro nesaf, ar ôl iddo gael ei glywed yn dweud ei bod hi wedi ymateb gyda rhyddhad o glywed y newyddion fod yr Alban wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth, drwy “ganu grwndi” dros y ffôn.
Mae’r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn teimlo “embaras” ac yn ymddiheuro am y digwyddiad.
Fe glywodd meicroffonau rai o sylwadau David Cameron wrth iddo sgwrsio â chyn-faer Efrog Newydd Michael Bloomberg yn ystod ymweliad a’r UDA ddydd Mawrth.
Mae Downing Street eisoes wedi cysylltu â Phalas Buckingham i ymddiheuro ar ran y Prif Weinidog am y digwyddiad ac mae’n debyg y bydd David Cameron yn ymddiheuro yn bersonol pan fydd yn cwrdd â’r Frenhines yn ystod un o’u cyfarfodydd arferol.