Fe fydd Trinity Mirror – y cwmni sy’n cyhoeddi papurau fel y Daily Mirror, Sunday Mirror, Sunday People, Daily Post, Western Mail a’r Caernarfon and Denbigh Herald – yn gorfod talu mwy o iawndal i enwogion ar ôl cyfaddef i hacio eu ffonau symudol.
Mae’r cwmni eisoes wedi cytuno i dalu iawndal i’r actor Rhys Ifans, nani’r Beckham’s Abbie Gibson a chyn-reolwr tîm pêl-droed Lloegr, Sven-Goran Eriksson.
Cyhoeddwyd heddiw y bydd y cyn-bêl-droediwr Garry Flitcroft, yr asiant Phil Dale a’r actores Lucy Benjamin hefyd am dderbyn iawndal. Nid yw swm yr iawndal wedi ei gyhoeddi eto.
Ym mis Gorffennaf, dywedodd y cwmni ei fod wedi rhoi £4m i’r naill ochr er mwyn delio ag achosion sifil allai gael eu dwyn yn deillio o gyhuddiadau o hacio ffonau symudol.
Yn yr un mis, cafodd y newyddiadurwr Dan Evans ddedfryd o garchar wedi ei ohirio am gyfaddef i gynllwynio i hacio ffonau symudol.