Yr Athro Richard Wyn Jones
Mae un o arbenigwyr gwleidyddol mwya’ Cymru’n dweud ei bod hi’n “drawiadol” faint y mae cefnogaeth yng Nghymru ar gyfer rhagor o ddatganoli wedi tyfu yn y misoedd diwethaf.

Heddiw fe gyhoeddwyd arolwg BBC/ICM oedd yn dangos mai dim ond 3% oedd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru – ond bod 49% yn credu y dylai’r Cynulliad gael rhagor o bwerau.

Dyna’r lefel isaf o gefnogaeth erioed mewn pôl o’r fath ar gyfer annibyniaeth i Gymru, i lawr o 5% ym mhôl diwethaf ICM.

Dywedodd 26% eu bod yn hapus â’r lefel bresennol o ddatganoli tra oedd 2% am weld llai o bwerau gan y Cynulliad, a 12% am ei ddiddymu’n gyfan gwbl.

Mwy o ddatganoli

Ond roedd y nifer oedd yn cefnogi rhagor o bwerau’n uwch na pholau cynt, a hynny yn ôl Richard Wyn Jones yw’r prif beth sydd wedi newid.

“Beth sy’n drawiadol iawn am yr arolwg ydi bod cefnogaeth ar gyfer cryfhau datganoli mor gryf, a pan ydach chi’n edrych yn fwy manwl, fod cefnogaeth i ddatganoli pethau fel lles mor gryf,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“Felly dw i’n ffeindio’r drafodaeth o’r arolwg yn od iawn – beth mae’r arolwg yn ei ddangos i mi ydi fod cefnogaeth i ddatganoli pellgyrhaeddol yn eithriadol o gryf, efallai’n gryfach nag y mae wedi bod erioed.

“Mi oedd pôl diwethaf ICM yn dangos fod cefnogaeth i annibyniaeth yn isel; dydi hynny ddim wedi newid.

“Ond beth sydd yn ymddangos fel petai o wedi newid ydi fod y gwrthwynebiad i ddatganoli wedi cwympo’n sylweddol iawn a bod y gefnogaeth i fwy o ddatganoli yn gryfach nag erioed.”

Effaith ar y drafodaeth?

Yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban, pan bleidleisiodd pobol y wlad i aros yn rhan o Brydain, mae’r drafodaeth wedi troi at ragor o ddatganoli o fewn y Deyrnas Unedig.

Ac yn ôl Richard Wyn Jones, mae’r arolwg diweddaraf yma’n cynnig rhagor o dystiolaeth y byddai’r Cymry’n ddigon fodlon cael rhagor o bwerau.

“Mae’r gefnogaeth i fwy o ddatganoli yng Nghymru wedi bod yn ffenomenon ers talwm iawn,” meddai’r Athro. “I ba raddau mae refferendwm yr Alban yn effeithio ar hynny mae’n anodd dweud.

“Ond beth sydd yn drawiadol ydi mewn cyd-destun lle mae’r drafodaeth wleidyddol o fewn y wladwriaeth Brydeinig yn sôn am ddatganoli pellgyrhaeddol i’r cenhedloedd, a lle mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn trafod ymreolaeth, fod pobol Cymru fel petaen nhw’n awyddus i fynd yn bell iawn i lawr y llwybr yna.”

Dim modd cymharu

Fe ddangosodd pôl piniwn gan ITV/YouGov ychydig wythnosau yn ôl mai 17% oedd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, gan wneud i lawer o bobol amau pam fod y lefel mor isel yn y pôl diweddaraf gan BBC/ICM.

Ond roedd y ddau arolwg yn gofyn cwestiynau gwahanol ac wedi’u geirio’n wahanol, gyda phôl YouGov yn holi’r cwestiwn ar annibyniaeth ar ffurf Ie/Na, ac un ICM yn gofyn i bobol ddewis o bum opsiwn am be hoffwn nhw weld i Gymru.

Ddylai pobol ddim felly edrych yn ormodol ar y gwahaniaeth hwnnw, yn ôl Richard Wyn Jones – a derbyn nad yw annibyniaeth i Gymru’n ddewis poblogaidd beth bynnag yw’r polau.

“Does yna ddim lot o arwyddocâd yn hynny i fi,” meddai.