Pont Casnewydd
Mae Cyngor Casnewydd wedi pleidleisio i wrthod cynllun i uno’n wirfoddol â Chyngor Sir Fynwy.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr yn erbyn argymhelliad Comisiwn Williams, sydd eisiau cwtogi nifer yr awdurdodau lleol o 22 i rhwng 10 a 12.
Dinas ar wahân
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd fod aelodau’n teimlo’n “gryf iawn” bod angen i’r ddinas gadw ei hunaniaeth.
Ond wnaethon nhw ddim diystyru cydweithio gyda chynghorau eraill – petai hynny’n fuddiol i drigolion.
Fe wnaeth holl bleidiau’r cyngor bleidleisio yn erbyn y cynllun, a bydd yr awdurdod nawr yn anfon ymateb ffurfiol at Lywodraeth Cymru.
Ymgynghori
Mae’r ymgynghoriad ar ddrafft o fesur gan y Llywodraeth ar uno’r cynghorau yn dod i ben ar 1 Hydref.
Yn barod mae Cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy wedi cytuno i ddechrau trafod uno. Ond yn bellach i lawr yr A55 mae Cyngor Wrecsam wedi gwrthod trafod uno gyda Sir Y Fflint.
Yn ôl papur gwyn y Llywodraeth, bydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn dechrau gweithio ar opsiynau o ad-drefnu siroedd. Mae’r Llywodraeth yn gobeithio bydd ffiniau’r siroedd cyntaf i uno yn cynnal etholiad yn 2018. Mae disgwyl bydd y newidiadau wedi eu gwneud erbyn 2022.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn honni bydd uno’r cynghorau yn costio rhwng £200m a £400m ac ond yn arbed £100m.
Er hyn mae’r Llywodraeth yn dweud gallai’r gost yma gael ei thalu’n ôl dros bum mlynedd gyda’r arbedion yn cynyddu yn y dyfodol.