Mae dyn o Gydweli wedi ei orchymyn i dalu dirwy o £140 am ollwng stwmp sigarét yn Nhrostre, Llanelli.
Plediodd Richard Anthony Morgan May, 22, o Borth y Castell, yn euog i’r drosedd.
Daethpwyd â’r achos i’r Llys gan Gyngor Sir Caerfyrddin
Clywodd Llys Ynadon Caerfyrddin bod swyddogion gorfodaeth amgylcheddol y cyngor wedi gweld Richard Morgan yn gollwng ei sigarét ar lawr maes parcio siop B&Q cyn gyrru i ffwrdd i siop Pets at Home.
Sbwriel
Yn ôl yr ystadegau mae tua 83% o’r holl sbwriel ar strydoedd Sir Gaerfyrddin yn gysylltiedig ag ysmygu.
“Mae gollwng sbwriel yn erbyn y gyfraith ac yn nid yw gollwng pen sigarét yn wahanol i daflu unrhyw fath arall o sbwriel,” meddai’r Cynghorydd Jim Jones sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd a Diogelu’r Cyhoedd ar Gyngor Sir Caerfyrddin.
“Mae bonion sigaréts yn gwneud i ardal edrych yn flêr ac maent yn anodd ac yn gostus i’w glanhau.”