Abu Qatada
Mae llys yng Ngwlad yr Iorddonen wedi penderfynu bod y clerigwr radical Abu Qatada yn ddieuog o droseddau brawychol.
Cafodd Abu Qatada ei yrru o wledydd Prydain ym mis Gorffennaf i wynebu achos llys yn ei famwlad.
Roedd yna olygfeydd gorfoleddus yno y bore yma ar ôl i’r llys ddweyd nad oedd digon o dystiolaeth i’w gael yn euog o gynllwynio i ymosod ar Americanwyr ac Israeliaid yn 2000.
Mae disgwyl iddo gael ei ryddhau o fewn oriau ond fydd e ddim yn cael dychwelyd i wledydd Prydain.k
Ym mis Mehefin, cafwyd Abu Qatada yn ddi-euog o fod â rhan mewn cynllwyn i ymosod ar ysgol Americanaidd yng Ngwlad yr Iorddonen.
Roedd Abu Qatada, 53, wedi pledio’n ddi-euog i’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.