Baner IS
Mae eithafwyr Islamaidd wedi rhyddhau fideo propaganda newydd sydd i’w weld yn dangos y gwystl Prydeinig, John Cantlie.

Daeth y fideo – yr ail sy’n dangos y newyddiadurwr mewn llai nag wythnos – i’r amlwg yn ystod oriau mân y bore yma, yn ôl adroddiadau.

Mae John Cantlie yn cael ei ddal yn wystl gan y grwp eithafol Islamic State (IS).

Mae John Cantlie edrych yn dawel ac yn ymddangos i fod yn darllen sgript. Disgrifiodd Grŵp SITE, sy’n monitro grwpiau jihadaidd, y ffilm ddiweddaraf fel y “bennod gyntaf” mewn cyfres sy’n dangos John Cantlie yn siarad am y grŵp.

Yr wythnos diwethaf cafodd fideo ei ryddhau oedd yn dangos John Cantlie mewn lleoliad tebyg yn dweud byddai’n siarad am IS mewn fideos eraill.

Mae John Cantlie wedi gweithio i bapurau newydd gan gynnwys y Sunday Times.