Ffoaduriaid o Syria
Mae nifer y bobl o Syria sydd wedi ffoi i Dwrci er mwyn dianc rhag y grŵp eithafol Islamic State (IS) wedi cyrraedd 100,000.
Mae’r rhan fwyaf o’r ffoaduriaid yn Gwrdiaid, ac ers iddyn nhw ddechrau cyrraedd ddydd Iau, mae’r gwrthdaro wedi agosáu at y ffin gyda Thwrci.
Yn y dyddiau diwethaf, mae IS wedi symud i ardaloedd Cwrdaidd yn Syria sydd yn ffinio a Thwrci. Mae ffoaduriaid sy’n ffoi’r gwrthdaro wedi sôn am erchyllterau sy’n cynnwys llabyddio, llosgi cartrefi a phobl yn cael eu dienyddio.
Ddoe, bu gwrthdaro rhwng IS ac ymladdwyr Cwrdaidd filltir yn unig o dref Kobani sydd ar y ffin rhwng Syria a Thwrci.
Wrth i’r ffoaduriaid lifo o Syria, mae Twrci wedi cau’r ffin yn Kucuk Kendirciler i Gwrdiaid o Dwrci mewn ymgais i’w hatal rhag ymuno â’r ymladd. Y diwrnod blaenorol, roedd cannoedd o Gwrdiaid Twrcaidd wedi mynd i Syria.
Mae IS wedi meddiannu 64 o bentrefi yng ngogledd Syria wedi i’r ymladd ddechrau yno ddydd Mercher.
Does neb yn gwybod beth sydd wedi digwydd i 800 o Gwrdiaid o’r pentrefi hynny ond mae’n hysbys bod IS wedi lladd o leiaf 11 o bobl gyffredin gan gynnwys dau o fechgyn ifanc.