Mae cwmni archfarchnad Tesco wedi datgelu ei fod wedi goramcangyfrif ei elw o £250 miliwn.

Roedd cyfrannau yn y cwmni archfarchnad mwyaf ym Mhrydain wedi gostwng i’w lefel isaf ers 11 mlynedd yn dilyn y cyhoeddiad.

Mae Tesco wedi gofyn i Deloitte gynnal ymchwiliad “annibynnol a chynhwysfawr” o’r materion.

Mae’r ymchwiliad yn ymwneud a rhagolygon Tesco ar ddiwedd mis Awst pan gyhoeddodd y byddai elw’r cwmni am chwe mis cynta’r flwyddyn oddeutu £1.1 biliwn.

Ond mae’r cwmni bellach wedi dweud eu bod nhw wedi gor-amcangyfrif yr elw o £250 miliwn, gan olygu y bydd ei elw 46% yn is na’r £1.58 biliwn y llynedd.

Dywedodd prif weithredwr newydd Tesco, Dave Lewis, a ddechreuodd yn ei swydd ar 1 Medi: “Rydym wedi darganfod mater difrifol ac wedi ymateb yn briodol.”

Dywed Tesco bod pedwar o staff wedi cael eu gwahardd o’u gwaith tra bod yr ymchwiliad yn parhau.