Mae’r gweithredwr rhwydwaith ffonau symudol, EE, am brynu 58 o siopau Phones 4u gan ddiogelu mwy na 350 o swyddi.
Mae’r cytundeb gyda’r gweinyddwr yn dod ar ôl i gwmni Vodafone gyhoeddi ddydd Gwener y byddai’n prynu 140 o siopau Phones 4u gan ddiogelu 887 o swyddi.
Aeth Phones 4u i ddwylo’r gweinyddwyr yr wythnos diwethaf yn dilyn penderfyniad EE i beidio ag adnewyddu ei gytundeb gyda’r cwmni.
Roedd gan Phones 4u 5,600 o weithwyr mewn 560 o siopau.
Mae Dixons Carphone eisoes wedi dweud y bydd yn cadw 800 o staff oedd yn gweithio ar 160 o safleoedd Phones 4u o fewn siopau Currys/PC World.