Lee Waters o'r Sefydliad Materion Cymreig
Mae’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol i drafod yr hyn ddylai Cymru ofyn amdano yn y drafodaeth am ddyfodol y Deyrnas Unedig.

Mae’r confensiwn wedi ei selio ar brofiad Gwlad yr Iâ yn dilyn yr argyfwng ariannol pan wnaeth dinasyddion ysgrifennu cyfansoddiad newydd ar gyfer y wlad.

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn gobeithio ysgogi’r gymdeithas sifil yng Nghymru i adeiladu consensws ar gyfer newid.

‘Cymryd yr awenau’

Meddai cyfarwyddwr yr IWA, Lee Waters: “Os na fydd Llywodraeth y DU yn sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol, yna mae’n rhaid i gymdeithas sifil yng Nghymru gymryd yr awenau.

“Rydym wedi treialu dull o ddefnyddio’r we i ddatblygu polisi “torf-ffynhonellu” drwy ddod â phobl at ei gilydd i drafod newidiadau polisi. Rydym yn bwriadu adeiladu ar hynny i greu sgwrs eang gyda phobl ar draws Cymru, a thu hwnt, am greu setliad cyfansoddiadol sefydlog i Gymru.”

Gan dynnu ar enghreifftiau o brofiad Gwlad yr Iâ o gynnwys dinasyddion, yn ogystal â Chonfensiwn Cyfansoddiadol yr Alban wnaeth ysgogi cefnogaeth i gael Senedd yn yr 80au a’r 90au, mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn bwriadu dod â grŵp o ffigurau amlwg a sefydliadau at ei gilydd yn yr wythnosau nesaf.

‘Brwdfrydedd’

Ychwanegodd cadeirydd IWA ac aelod o Gomisiwn Silk, Helen Molyneux: “Mae refferendwm yr Alban wedi rhoi egni a brwdfrydedd i’r ddadl gyfansoddiadol.

“Dangosodd yr Albanwyr nad trafodaeth am strwythurau sych yw hyn ond am wella bywydau pobl. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn awyddus i greu dadl debyg yng Nghymru am ein dyfodol yn y DU, a sut y gellir cael setliad teg, cytbwys a chynaliadwy”.