Cadoediad ‘mewn enw yn unig’ sydd wedi bod ar waith yn yr Wcrain dros y pythefnos ddiwethaf, yn ôl prif gadfridog Nato yn Ewrop.

Dywedodd y Cadfridog Philip Breedlove o lu awyr yr Unol Daleithiau fod milwyr Rwsia yn dal i weithredu o fewn dwyrain yr Wcrain, a bod y lefelau o drais yno cyn uched ag yr oedden nhw cyn y cadoediad.

Dywedodd fod y ffin agored rhwng dwyrain yr Wcrain a Rwsia yn ei gwneud hi’n amhosibl gwybod faint o filwyr Rwsia sydd yn yr Wcrain.