Ar gychwyn cynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion, mae’r arweinydd, Ed Miliband, wedi addo codi’r isafswm cyflog i £8 yr awr.
Dywedodd fod yn rhaid cymryd cam o’r fath yn ystod y senedd nesaf er mwyn gwarchod buddiannau gyrwyr cyffredin.
Gyda’r isafwm cyflog yn codi i £6.50 yr awr y mis nesaf, byddai cynlluniau Llafur yn golygu cynnydd o £3,000 y flwyddyn i’r gweithwyr ar y tâl isaf.