Gwrthryfelwyr Islamic State yn dienyddio milwyr yn Irac
Mae gwraig i ddyn sy’n cael ei ddal yn gaeth gan yr eithafwyr Mwslimaidd Islamic State wedi apelio arnyn nhw i ryddhau “dyn heddychlon ac anhunanol”.
Roedd Alan Henning, gyrrwr tacsi 47 oed o Fanceinion, wedi cael ei herwgipio gan y gwrthryfelwyr yn Syria ym mis Rhagfyr y llynedd.
Cafodd ei ddangos ar ddiwedd fideo o’i gyd-wystl David Haines yn cael ei ddienyddio yr wythnos ddiwethaf.
Wrth apelio ar garcharwyr ei gŵr, dywedodd Barbara Henning:
“Fe wnaeth Alan adael ei swydd fel gyrrwr tacsi ym Mhrydain i fynd â chymorth yr holl ffordd i Syria i helpu’r rheini sydd mewn mwyaf o angen.
“Pan gafodd ei herwgipio roedd yn gyrru ambiwlans yn llawn o waed a dŵr i bwy bynnag oedd ei angen.
“Ni allaf weld sut y gallai helpu achos Islamic State mewn unrhyw ffordd i adael i’r byd weld dyn fel Alan yn marw.”