Alex Salmond tu allan i'w gartref yn Strichen (Llun: Danny Lawson/PA Wire)
Mae aelodaeth yr SNP wedi cynyddu gan 5,000 ers cyhoeddi’r bleidlais Na fore Gwener.

Dywed y blaid fod ei haelodaeth wedi cynyddu o 25,642 ddydd Iau i 30,486 trannoeth cyhoeddi canlyniad y refferendwm.

Yn ôl trefnydd busnes yr SNP, Derek Mackay mae twf o 5,000 yn “galonogol tu hwnt.”

“Bydd rhai heb os yn dod draw o Lafur – â bod cadarnleoedd traddodiadol y blaid honno wedi pleidleisio Ie dydd Iau – ond bydd llawer yn newydd i wleidyddiaeth a byddan nhw’n parhau ag etifeddiaeth y refferendwm a’r diddordeb anhygoel a welwyd,” meddai.

Sbardunodd y refferendwm ddiddordeb gwleidyddol mawr yn yr Alban ac roedd y ganran a bleidleisiodd yn y refferendwm – 84.6% – yn uwch nag unrhyw etholiad ym Mhrydain erioed.

Arweinydd newydd

Ers i Alex Salmond gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo mae’r SNP yn chwilio am arweinydd am y tro cyntaf ers degawd.

Bydd Alex Salmond yn camu o’r neilltu ym mis Tachwedd a’i olynydd yn arweinydd yr SNP fydd yn camu i swydd Prif Weinidog yr Alban – yn amodol ar sêl bendith y senedd – tan i’r etholiad nesaf ar gyfer Holyrood gael ei gynnal ym mis Mai 2016.

Bydd yr SNP yn ethol ei harweinydd newydd yng nghynhadledd flynyddol y blaid yn Perth ym mis Tachwedd, a’r ffefryn clir yw dirprwy Alex Salmond, Nicola Sturgeon.