Llun: AP Photo/Matthias Schrader
Mae gŵyl Oktoberfest wedi agor heddiw ym Munich yn yr Almaen.
Ar ôl i faer y ddinas Dieter Reiter osod tap ar gasgen a chyhoeddi “Ozapft is” – mae tap arni – dyma’r cwrw’n dechrau llifo yn yr ŵyl enwog sy’n dathlu traddodiadau a chwrw Bavaria.
Mae disgwyl i chwe miliwn o bobl fynd i’r ŵyl, sy’n para am bythefnos. Yn groes i’r enw mae’n cael ei chynnal ym mis Medi bellach er mwyn manteisio ar dywydd gwell.