Yr Athro Gwynedd Parry
Mae arbenigwr ar y gyfraith yng Nghymru wedi dweud ei bod hi’n “gywilyddus” nad oes gan Lywodraeth Cymru ragor o bwerau erbyn hyn.
Dywedodd yr Athro Gwynedd Parry, o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, nad oes gan Gymru hyd yn oed yr un grym â thalaith mewn gwlad ffederal.
“’Dan ni’n bell ohoni,” meddai mewn sesiwn Hawl i Holi yng Nghaerfyrddin neithiwr.
“Mae’n gywilyddus ein bod ni mor bell ar ei hôl hi. Mae gan yr Alban y sefydliadau angenrheidiol, ac mae gan Ogledd Iwerddon y sefydliadau, ond ddim Cymru.”
Gweithredu argymhellion Silk
Dywedodd Gwynedd Parry, sy’n un o gyfarwyddwyr Sefydliad Hywel Dda ym Mhrifysgol Abertawe, fod rhaid gweithredu argymhellion Silk os ydy Cymru am gael rhagor o rym.
“Rhyw adroddiad chwit-chwat yw un Comisiwn Silk mewn gwirionedd, ond os ydyn am greu rhywbeth yng Nghymru mae’n rhaid i ni symud yr argymhellion yn eu blaen,” meddai.
“Mae gan yr Alban y bensaernïaeth i ganiatáu iddyn nhw ofyn cwestiwn annibyniaeth – pwerau, sefydliadau, gwasg eang. Dydy hynny ddim yn wir am Gymru.
“Os ydyn ni am symud yn ein blaen rhaid inni greu’r bensaernïaeth honno.”
Fis Gorffennaf dywedodd Carwyn Jones fod “Silk yn ein rhoi ar y trywydd iawn ond mae angen mynd ymhellach” er mwyn sicrhau nad oes dryswch ynghylch p’un ai Caerdydd neu Lundain sydd â’r pwerau.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb heddiw i alwad David Cameron am “bleidleisiau Seisnig ar gyfer deddfau Lloegr” trwy ddweud y byddai’n “gymhleth tu hwnt” pennu pa ddeddfau sy’n effeithio ar Loegr yn unig. Dylid datganoli grym o fewn Lloegr meddai Carwyn Jones, gan gadw San Steffan ar gyfer materion Prydain.