Llun: Danny Lawson/PA Wire
Bydd yr addewid i drosglwyddo pwerau i’r Alban yn cael ei weithredu’n syth meddai’r cyn-Brif Weinidog Gordon Brown.
Dywedodd Gordon Brown fod “llygaid y byd ar arweinwyr prif bleidiau’r Deyrnas Unedig” ar ôl i David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg wneud addewid cyhoeddus cyn y Refferendwm i drosglwyddo pwerau i’r Alban, proses a oedd i fod i ddechrau ddoe.
Yn ôl Aelod Seneddol Kirkcaldy a Cowdenbeath bydd cynnig yn cael ei gyflwyno yn San Steffan ddydd Llun, wedi’i lofnodi gan arweinwyr y pleidiau a chanddo fe.
Mae’r cynnig yn galw ar y Llywodraeth i osod papur gorchymyn erbyn diwedd mis nesaf a fydd yn cynnwys cynigion gan y tair prif blaid Brydeinig, gyda’r bwriad y bydd Bil newydd yr Alban yn barod erbyn diwedd Ionawr.
Ymhlith yr addewidion mae cadw fformiwla Barnett, sy’n dod â mwy o fanteision ariannol i’r Alban nag i Gymru meddai sylwebwyr megis Gerald Holtham ac Eurfyl ap Gwilym.
Dadl yn Nhŷ’r Cyffredin
Wrth annerch cynulleidfa yn Fife, dywedodd Gordon Brown, “Galla i’ch sicrhau chi fod y gwasanaeth sifil eisoes yn gweithio ar yr addewid yma, sydd wedi cael ei amau gan bobol ar y tonfeddi ac yn y Trydarfyd.”
Ychwanegodd ei fod wedi cael hawl Llefarydd Tŷ’r Cyffredin i alw dadl yn y Tŷ ar Hydref 16, a fydd yn trafod pwerau’r Alban.
“Rwy’n hollol sicr y bydd yr amserlen y gwnes i ei gosod, yn ddiamod, yn cael ei chyflawni.”
‘Gadewch inni fod yn genedl unwaith eto’
Mae Gordon Brown wedi cael llawer o glod gan wrthwynebwyr annibyniaeth am achub yr Undeb yn sgil ei waith ymgyrchu munud-olaf. Heddiw ymbiliodd ar yr Albanwyr i feddwl am eu hunain fel “Albanwyr, yn unedig, yn genedl unwaith eto” ac i anghofio am raniadau o blaid ac yn erbyn annibyniaeth.
Dywedodd y bydd y pwerau newydd yn sicrhau yn y dyfodol “na fydd y dreth ystafell wely yn gallu cael ei gwthio ar yr Alban fyth eto, na fydd treth y pen yn cael ei gwthio ar yr Alban eto.”
“Mae’r newid sydd ar ddigwydd, yn fy marn i, yn bodloni dyheadau mwyafrif helaeth yr Albanwyr,” meddai.