Mae John Key a’r Blaid Genedlaethol wedi ennill buddugoliaeth swmpus yn etholiad cyffredinol Seland Newydd.

Mae plaid geidwadol John Key wedi ennill 48% o’r bleidlais, gydag ond ychydig o bleidleisiau ar ôl i’w cyfrif, ac mae’n bosib gall ffurfio llywodraeth heb fynd i bartneriaeth gyda chlymblaid. Mae clymbleidiau yn arferol dan system cynrychiolaeth gyfrannol Seland Newydd.

Dyma fydd trydydd tymor John Key wrth y llyw wrth i bleidleiswyr yn Seland Newydd dueddu tuag at bleidiau ceidwadol yn hytrach na’r blaid Lafur a’r Blaid Werdd.

Cafodd Llafur 25% o’r bleidlais, a dywedodd arweinydd y blaid, David Cunliffe, ei fod wedi ffonio John Key i’w longyfarch ar ei fuddugoliaeth.

Mae disgwyl i dymor y llywodraeth bara am dair blynedd.