Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhybuddio y gall achosion o Ebola yn Affrica ddechrau dyblu bob tair wythnos ac fe all gostio £617 miliwn i geisio rheoli’r afiechyd yn y pen draw.

Mae pryder hefyd nad yw’r ymateb rhyngwladol i’r argyfwng yn ddigon cryf, er bod Arlywydd America Barack Obama yn paratoi i anfon 3,000 o swyddogion i ddarparu cymorth i’r wlad.

“Mae’r ymateb i Ebola yn beryglus o wan,” meddai Joanne Liu, llywydd elusen Doctors Without Borders.

“Rydym angen i fwy o wledydd sefyll i fyny, rydym angen mwy o gymorth, ac rydym ei angen nawr.”

Hyd yn hyn mae 2,400 o bobol wedi marw a 5,000 arall wedi cael eu heintio gan Ebola yn Affrica.

Mewn adroddiad, dywedodd WHO y byddai angen bron i $1biliwn o ddoleri i dalu gweithwyr iechyd, prynu cyflenwadau a cheisio darganfod sut mae’r haint yn lledaenu.