Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn galw am gyfarfod brys gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i drafod y “bygythiad” o golli darpariaeth gofal iechyd sylfaenol yn yr ardal.
Yn ôl aelodau’r cyngor, mae dau feddyg teulu lleol sy’n gweithio ym Mlaenau Ffestiniog wedi cynnig eu hymddiswyddiad gyda’r bwriad o adael eu swyddi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
Daw hyn yn dilyn cau Ysbyty Coffa’r dref y llynedd.
Mae’r bwrdd iechyd wedi dweud na fydd ymadawiad y ddau feddyg yn cael effaith ar y ddarpariaeth iechyd, ond yn ôl Cadeirydd y Cyngor Tref, Rory Francis, fe fyddai’n ergyd drom ac mae’n rhaid gwneud mwy i ddenu meddygon teulu i ardaloedd gwledig.
‘Trychinebus’
Mewn llythyr i’r Bwrdd Iechyd, dywedodd y cyngor: “Fe fyddai colli’r ddau feddyg teulu sydd ar ôl yn drychinebus ac mae angen i ni drafod hyn gyda’r brys mwyaf.
Ychwanegodd Rory Francis bod y sefyllfa yn “fygythiad i’r ddarpariaeth gofal iechyd” yn yr ardal:
“Dim ond blwyddyn yn ôl gollodd y dref yr Ysbyty Coffa, gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr a hanfodol bwysig.
“Ond byddai colli’r ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yn fwy o fygythiad byth.
“Felly, rydym yn galw ar y Bwrdd Iechyd i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod meddygon teulu newydd yn cael eu penodi ac i roi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch y ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yn yr ardal. “