Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod pam fod hofrennydd wedi plymio i’r mor gan ladd y ddau ddyn ar ei fwrdd.
Roedd llygad-dystion wedi gweld yr hofrenydd mewn trafferthion cyn taro’r dwr yn Flamborough, yn nwyrain Swydd Efrog bnawn ddoe.
Bu’r heddlu, gwylwyr y glannau, y gwasanaeth ambiwlans a hofrennydd y llu awyr yn rhan o’r chwilio am yr hofrennydd.