Er bod cadoediad mewn grym yn yr Wcrain ers dros wythnos, parhau mae’r gwrthdaro ysbeidiol rhwng lluoedd llywodraeth y wlad a gwrthryfelwyr sy’n deyrngar i Rwsia.

Daw adroddiadau am ffrwydradau yn ninas Donetsk yn nwyrain y wlad lle mae gwrthryfelwyr Rwsiaidd wedi bod yn ceisio cipio rheolaeth o’r maes awyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch ac Amddiffyn yr Wcrain fod milwyr y wlad wedi gwrthsefyll ymosodiad ar y maes awyr gan tua 200 o ymladdwyr yn ystod y nos. Dywedodd na chafodd unrhyw filwyr eu lladd.

Yn sgil yr ymladd, mae’r rhannau o Donetsk sydd agosaf at y maes awyr wedi dioddef ffrwydradau.