Y dudalen newydd
Heddiw fe lansiwyd gwasanaeth trydar arloesol newydd yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae gwasanaeth newyddion Golwg360 a’r papur bro lleol, Clonc, yn dod at ei gilydd i ddechrau creu “lle ar y we” i’r ardal.
Y cam cynta’ yw sefydlu gwasanaeth trydar – cyfrif Twitter clonc360, sy’n creu llwyfan ar gyfer gwybodaeth, lluniau, newyddion a sylwadau am faterion y fro.
Fe lansiwyd y bartneriaeth yng Ngŵyl Golwg yn Llanbed, yn ystod sesiwn i drafod y berthynas rhwng cyhoeddiadau print a’r cyfryngau digidol.
Dylan Lewis, cadeirydd Clonc, yn trafod y fenter newydd heddiw:
Annog a hyfforddi
Mae Clonc a Golwg360 wedi bod yn cynnal nifer o sesiynau yn Llanbed i annog cymdeithasau ac unigolion i drydar yn Gymraeg, a chynnig hyfforddiant.
- Eisoes, fe fu’r papur bro’n aildrydar negeseuon perthnasol ar ei gyfrif, ond fe fydd hynny bellach yn cael ei ddatblygu ar y cyfrif newydd.
- Fe fydd Golwg360 hefyd yn trydar straeon newyddion sy’n ymwneud â’r ardal.
- Mae nifer o gymdeithasau a chlybiau eisoes wedi ymuno yn y cynllun.
Y camau wedyn, meddai’r cyhoeddwyr. fydd creu cyfrifon YouTube a Facebook gan arwain yn y pen draw at wefan lle bydd modd crynhoi’r holl weithgaredd ac ychwanegu straeon a gwybodaeth fwy traddodiadol a newyddion llawnach.
‘Cam cynta’
“Mae Golwg a Golwg360 wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn ceisio cael cefnogaeth arian cyhoeddus i’r syniad o rwydwaith o wefannau lleol Cymraeg a fyddai’n ailadrodd llwyddiant y papurau bro, ond mewn ffordd ddigidol,” meddai Golygydd Gyfarwyddwr y ddau wasanaeth, Dylan Iorwerth.
“Mae hwn yn gam bychan, cynta’ ar y daith honno. Mae yna nifer o ardaloedd a phapurau bro eraill sy’n awyddus i gydweithio – y gobaith yw y byddwn yn creu patrwm yn Llanbed y bydd modd ei ddilyn mewn ardaloedd eraill hefyd.
“Clonc ydi un o’r papurau bro mwya’ blaengar o ran defnyddio’r cyfryngau digidol; yn ogystal â thrydar, mae’n cyhoeddi’n gyson ar y We ac yn cynnwys rhifynnau archif digidol.”