Dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Elin Jones
Mae dirprwy arweinydd Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Prif Weinidog Carwyn Jones o fradychu buddiannau Cymru wrth ymgyrchu dros bleidlais Na yn yr Alban.

Dywed Elin Jones y byddai pleidlais yn erbyn annibyniaeth yn y refferendwm ddydd Iau yn golygu cynnal cyfundrefn sy’n amddifadu Cymru o’r cyllid y mae arni ei angen.

Yn ôl Plaid Cymru, mae Cymru £300 miliwn y flwyddyn ar ei cholled o ganlyniad i Fformiwla Barnett, sef y dull a ddefnyddir i ariannu llywodraethau Cymru a’r Alban.

“Anghymwynas mwyaf y Prif Weinidog â Chymru, yn wir ei frad, yw iddo gefnogi’r ymgyrch Na ar ôl i’r ymgyrch honno ymrwymo i gynnal Fformiwla Barnett sy’n tan-ariannu’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru o £300 miliwn y flwyddyn,” meddai Elin Jones.

“Arweinydd cenedlaethol pa wlad arall a fyddai’n gweithio mor amlwg yn erbyn ei buddiannau?”

Dywedodd y byddai pleidlais o blaid annibyniaeth ddydd Iau yn rhoi cyfle i Gymru sicrhau bargen newydd a gwell.

“Mae ar Gymru angen tegwch a chydraddoldeb a byddai pleidlais Ie yn ein galluogi ni i gychwyn y trafodaethau hyn,” meddai.

“Dw i’n cefnogi pleidlais Ie i’r Alban a phleidlais Ie fyddai’r gorau i Gymru hefyd – canlyniad lle byddai’r ddwy wlad ar ei hennill.”