Mae un o gyn-benaethiaid byddin Prydain wedi honni y byddai pleidlais Ie yn yr Alban yn dangos dirmyg at filwyr o’r Alban a gafodd eu lladd yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd yr Arglwydd Dannatt, pennaeth y fyddin rhwng 2006 a 2009 fod dros 100 o filwyr o’r Alban wedi ymladd a marw dros y Deyrnas Unedig yn ystod yr helyntion yng ngogledd Iwerddon rhwng 1969 a 2007.

“Dw i’n poeni ar ran gwragedd, mamau a ffrindiau’r milwyr rheini o’r Alban a fu farw er mwyn cadw Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dw i’n arbennig o bryderus am y ffordd y byddwn ni’n eu gadael nhw i lawr os bydd yr Alban yn diflannu o’n gwlad, a hynny ar chwiw ychydig filoedd o bleidleiswyr sy’n barod i gamblo ar ddyfodol ansicr yn hytrach nag aros y fewn y Deyrnas Unedig.”

Ef yw’r diweddaraf o ffigurau milwrol blaenllaw i fynegi pryderon ynghylch annibyniaeth i’r Alban, gydag un o gyn-benaethiaid Nato, y Cadfridog Syr Richard Shirreff, yn mynd cyn belled â dweud y byddai hynny’n “beryglus”.

Mewn ymateb i honiadau o’r fath, dywedodd Angus Robertson, llefarydd yr SNP ar amddiffyn:

“Polisi amddiffyn peryglus ac amaturaidd fyddai un sy’n anfon milwyr i ryfel anghyfreithlon heb offer addas, gan wastraffu degau o filiynau o bunnau ar arfau niwclear Trident na ellir fyth eu defnyddio – dyna bolisi amddiffyn y Deyrnas Unedig.”