Mae’r heddlu yn Iwerddon yn chwilio am fachgen 15 oed a gafodd ei herwgipio yn nhref Wexford brynhawn ddoe.
Cafodd Sait Canbullu ei hyrddio i gar du gyda ffenestri tywyll gan ddau ddyn â mygydau ar eu hwynebau.
Caiff ei ddisgrifio fel bachgen 5 troedfedd 4 modfedd o daldra, gyda gwallt du a llygadau brown.
Mae Rhybudd Achub Plentyn wedi cael ei gyhoeddi ledled y wlad – a dyw rhybudd o’r fath ond yn cael ei gyhoeddi pan fo amheuaeth fod plentyn mewn perygl difrifol.
Mae’r heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd i gadw draw oddi wrth yr herwgipwyr ac yn apelio i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 999.