Y ddwy ochr o fewn trwch blewyn i'w gilydd (Llun: PA)
Mae’r ddwy ochr yn refferendwm yr Alban o fewn trwch blewyn i’w gilydd, yn ôl yr arolygon barn diweddaraf.

Mae dadansoddiad annibynnol o’r chwe arolwg diweddaraf dros y ddeuddydd diwethaf yn awgrymu y gallai’r Na fod ar y blaen o 51% i 49%.

Mae hyn mor agos fel na ellir darogan unrhyw ganlyniad yn gywir ar ei sail – heb sôn am newidiadau a all ddigwydd o hyn tan ddydd Iau.

Un arolwg yn unig sy’n rhoi’r ochr Ie ar y blaen – a hynny o fwyafrif cymharol gyffyrddus o 54% i 46% – ond mae hwn yn seiliedig ar sampl o 700 o gymharu â’r nifer arferol o 1,000 yn yr arolygon eraill.

Ar ôl diwrnod o ymgyrchu tanbaid gan y ddwy ochr ddoe, dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond:

“Yr hyn sy’n cyfrif yw beth sy’n digwydd yn y strydoedd ac mewn cymunedau ledled yr Alban.

“Gennym ni y mae’r momentwm ac mae hynny am ein harwain ni i fuddugoliaeth ddydd Iau.”

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi pwysleisio bod y refferendwm yn benderfyniad unwaith ac am byth ac na fydd unrhyw droi’n ôl.

“Os bydd yr Alban yn pleidleisio o blaid, bydd y Deyrnas Unedig yn hollti, ac fe fyddwn ni’n mynd i gyfeiriadau gwahanol am byth,” meddai.