Gwrthryfelwyr Islamic State yn lladd milwyr yn Irac ym mis Mehefin (llun: PA)
Mae’r gweithiwr elusen David Haines, a gafodd ei gipio yn Syria fis Mawrth y llynedd, wedi cael ei lofruddio gan eithafwyr Islamaidd.

Daeth prawf o hyn wrth i fideo gael ei gyhoeddi ar-lein o wrthryfelwyr Islamic State yn torri ei ben i ffwrdd.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron ac arlywydd America, Barack Obama wedi condemnio’r llofruddiaeth ac yn addo dal y rhai sy’n gyfrifol.

“Llofruddiaeth ffiaidd o weithiwr elusen diniwed yw hyn – a gweithred gwbl ddieflig,” meddai David Cameron.

“Fe wnawn bopeth yn ein gallu i ddal y llofruddion hyn a sicrhau eu bod nhw’n wynebu cyfiawnder, waeth pa mor hir y bydd hyn yn ei gymryd.”

Fe fydd y Prif Weinidog yn cadeirio cyfarfod o Cobra, pwyllgor argyfwng y Llywodraeth, y bore yma.

Roedd David Haines yn wreiddiol o Perth yn yr Alban ac yno mae un o’i ferched yn byw.