Rhai o'r cannoedd yn y rail o flan y senedd yng Nghaerdydd heddiw (llun: Ciron Gruffydd)
Mae rhai cannoedd o bobl wedi bod mewn rali y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd y prynhawn yma i ddangos eu cefnogaeth i annibyniaeth i’r Alban.
Gobaith y trefnwyr, y mudiad amlbleidiol ‘Cymru’n Cefnogi Ie’, yw y bydd y rali’n hwb i’r ymgyrch dros bleidlais o blaid annibyniaeth yn y refferendwm yn yr Alban ddydd Iau nsesaf.
Ymysg y rhai fu’n cymryd rhan oedd Ray Davies o Gaerffili, sy’n aelod o’r Blaid Lafur, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Pippa Bartolotti, a Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru.
Wrth annerch y rali, meddai Leanne Wood:
“Gan bobl yr Alban y bydd y grym ddydd Iau.
“Y cwestiwn y maen nhw’n ei wynebu yw a oes arnyn nhw eisiau dal gafael ar y grym hwnnw bob diwrnod wedi hynny.
“A fyddan nhw’n manteisio ar y cyfle am ymreolaeth, neu’n adnewyddu mandad sefydliad San Steffan?
“Mater i’r Albanwyr benderfynu yw hyn, wrth gwrs, ond dyw hynny ddim yn golygu na allwn ni sefyll ochr yn ochr â nhw, i gefnogi eu hawl i ymreolaeth.”
‘Cyfleoedd i Gymru’
Dywedodd y byddai pleidlais ‘Ie’ yn yr Alban yn arwain at lu o bosibiliadau i Gymru:
“Er mai awr yr Alban yw hon, un cyfle mawr yr Alban, maen nhw wedi dangos beth all ddigwydd pan pan ddaw cenedl at ei gilydd mewn gobaith.
“Pan ddaw pobl at ei gilydd gyda phenderfyniad a chred ynddyn nhw’u hunain, a’r hyder i adeiladu gwell dyfodol.
“Pan saif cenedl yn falch gan estyn llaw cyfeillgarwch i eraill.
“Does gen i ddim amheuaeth y daw ein hawr ninnau.
“Heddiw, fel dinasyddion Cymru, fe ddown at ein gilydd i anfon ein dymuniadau gorau at bobl yr Alban.
“Safwn gyda hwy ar y funud hanesyddol hon.
“Ac o brifddinas Cymru, dyma ddywedwn ni:
“Amdani’r Alban.”