Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond
Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi addo ‘dydd o ddathlu’ ac nid ‘dydd o farnu’ os bydd cefnogwyr annibyniaeth yn ennill y refferendwm ddydd Iau.

Roedd yn ymateb i sylwadau Jim Sillars, cyn ddirprwy arweinydd yr SNP, a oedd wedi rhybuddio y byddai’r cwmnïau mawr a’r banciau sydd wedi gwrthwynebu annibyniaeth yn ‘wynebu’r canlyniadau’.

Gan bwysleisio’r angen am undod cenedlaethol, meddai Alex Salmond:

“Y diwrnod ar ôl pleidlais Ie, fydd dim ymgyrch Na nac ymgyrch Ie – dim ond Tîm yr Alban.

“Byddwn yn dathlu llwyddiant Ie drwy fod yn fawrfrydig tuag at bawb.

“Mae Jim Sillars yn ymgyrchydd gwych sydd wedi rhoi heibio ei alar personol o golli ei wraig Margo MacDonald er mwyn rhoi popeth i ysbrydoli’r bleidlais Ie.

“Mae’n ymladd ymgyrch dda dros yr Alban i gyd – ond diwrnod o ddathlu i’r bobl sydd ar ôl pleidlais Ie, nid o farnu’r cwmnïau mawr sydd wedi cael eu tynnu i’r ymgyrch Na gan Stryd Downing.

“Rhaid inni godi uwchlaw’r tactegau Torïaidd dan-din hyn, a bod yn hyderus o’r ysbryd newydd yn yr Alban.”

Rhybudd Jim Sillars

Fe wnaeth Jim Sillars ei sylwadau ar ôl i fanciau a chwmnïau mawr eraill ddatgan eu pryderon a’u hamheuon am annibyniaeth i’r Alban.

“Mae’r refferendwm hwn ynglŷn â grym, a phan fyddwn ni’n cael mwyafrif o blaid, fe fyddwn ni’n defnyddio’r grym hwnnw i roi BP a’r banciau yn eu lle,” meddai.

“Dynion cyfoethog yw penaethiaid y cwmnïau hyn, sy’n cydweithio â Phrif Weinidog Seisnig Torïaidd cyfoethog i gadw tlodion yr Alban yn dlotach trwy gelwyddau ac anwireddau.

“Fe fydd y grym sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd i wrthdroi ein democratiaeth yn dod i ben gyda phleidlais Ie.”