Mae’r Wcrain yn dal “mewn cyflwr o ryfel” gyda Rwsia er gwaethaf y cadoediad, yn ôl prif weinidog y wlad.
Wrth siarad mewn cynhadledd yn y brifddinas Kiev, dywedodd Arsenly Yatsenyuk mai nod arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yw meddiannu’r Wcrain yn ei chyfanrwydd.
“Ni all ddygymod â’r syniad y byddai’r Wcrain yn rhan o deulu mawr yr Undeb Ewropeaidd,” meddai. “Mae arno eisiau adfer yr Undeb Sofietaidd.”
Yn y cyfamser, mae ail gonfoi o gannoedd o gerbydau milwrol o Rwsia wedi cyrraedd yr ardal o ddwyrain yr Wcrain sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr heddiw. Yn ôl adroddiadau, mae’r cerbydau’n cynnwys 2,000 o dunelli o gymorth dyngarol.
Dywed y Cyrnol Andriy Lysenko ar ran Cyngor Diogelwch yr Wcrain fod y confoi wedi croesi’n anghyfreithlon i diriogaeth yr Wcrain.