Cafodd dau ddyn eu lladd wrth i’r car yr oedden nhw’n teithio ynddo daro wal yng nghyffiniau Castell Nedd yn oriau mân y bore.
Roedd y car, Ford Focus du, yn teithio ar hyd yr A48 i gyfeiriad y dwyrain pan aeth yn erbyn wal ar yr Hen Ffordd, Llansawel, gerllaw bwyty McDonalds, tua 4am.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n chwilio am y cerbyd cyn y gwrthdrawiad, a’u bod nhw wedi cyfeirio’r achos at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu iddyn nhw dderbyn gwybodaeth gan Heddlu Dyfed Powys iddo gael ei weld yn cael ei yrru’n amheus yn ardal Rhydaman.
Apelio am dystion
Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y car wrth iddo deithio o gyfeiriad Rhydaman, ar hyd yr M4, ac wedyn ar hyd pont Llansawel.
Maen nhw hefyd yn apelio ar i deithwyr a oedd mewn car du, y credir mai tacsi oedd, ar gylchfan Llansawel ar adeg y digwyddiad.
Roedd yr heddlu a’r gwasanaethau brys wedi mynd i safle’r gwrthdrawiad ar ôl derbyn galwad gan aelod o’r cyhoedd, lle cadarnhawyd bod y ddau ddyn wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae’r heddlu’n pwyso ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Brys ar 101 gan ddatgan cyfeirnod 1400341378 neu alw Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.